Mae undeb athrawon wedi galw ar i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i roi mwy o flaenoriaeth i leihau maint dosbarthiadau.

Daw’r alwad ar ôl i’r ystadegau cyfrifiad ysgolion diweddaraf gael ei gyhoeddi sy’n dangos cynnydd yng nghanran y disgyblion sy’n cael eu dysgu mewn dosbarthiadau o 30 neu fwy o fyfyrwyr.

Mae NUT Cymru yn dweud bod y canran wedi codi bron iawn pob blwyddyn ers 2004, ac maen nhw’n honni fod dosbarthiadau mwy yn cael effaith negyddol ar safonau disgyblion.

Yn ôl Owen Hathway, swyddog polisi NUT Cymru, dyw’r cynnydd ei hun ddim yn ddramatig ond eu bod nhw’n “pryderu” bod patrwm yn datblygu.

“Nid yn unig mae rhifau dosbarth mawr yn arwain at fwy o lwyth gwaith i athrawon, maent hefyd yn lleihau gallu’r athrawon i ddarparu cymorth unigol i ddisgyblion,” meddai.

“Mae angen i ni ganfod pam fod patrwm o gynnydd yn parhau a sut y gellir mynd i’r afael a’r broblem.

“Mae hwn yn fater sydd angen bod ar yr agenda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol wrth iddynt gynllunio darpariaethau addysg yn y dyfodol.”