Simon Thomas, Plaid Cymru
Mae angen i Safonau Iaith, Llywodraeth y Cynulliad, wneud yr hyn y mae’r cyhoedd eisiau iddyn nhw ei wneud, yn ôl llefarydd ar ran Plaid Cymru. Ac am hynny, mae angen cyhoeddi ail gylch o Safonau yn “ddi-oed” er mwyn gwneud yn siwr fod cwmnïau yn eu rhoi ar waith gynted â phosib.

“Rydym yn croesawu fod y llywodraeth wedi cadarnhau’r rhaglen weithredu ar y safonau iaith,” meddai Simon Thomas, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Iaith Gymraeg.

“Er bod oedi sylweddol wedi bod wrth gyhoeddi drafft cyntaf y safonau, mae’n hynod bwysig fod y rheoliadau yn cyflawni’r hyn yr oedd y cyhoedd eisiau.

“Unwaith mae’r broses gyntaf wedi ei chwblhau, mae’n rhaid i’r llywodraeth weithio’n brydlon i gyflwyno’r ail gylch o safonau yn ddi-oed,” meddai wedyn. “Yr eironi yw, yn ôl amserlen y llywodraeth, na fydd gorfodaeth ar Arriva Trains Wales i weithredu’r safonau tan ar ôl etholiad Cynulliad 2016!”

Wedi i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, gyhoeddi ddydd Gwener y byddai’r Safonau’n dod i rym ym mis Mawrth 2015, fe fu cwyno gan ymgyrchwyr am yr oedi cyn eu cyflwyno.