Mae Heddlu De Cymru wedi dod o hyd i bensiynwr o ardal Tonyrefail a gafodd ei riportio ar goll.

Fe gafodd yr heddlu eu galw wedi i neb weld John Povey, 69, yn ei gartre’ yn Maes-Y-Bryn, Tonyrefail, Porth ers 7 o’r gloch neithiwr.

Roedd rhai’n pryderu amdano oherwydd ei fod yn diodde’ o glefyd Parkinson a dementia.

Ond daeth cadarnhad gan Heddlu De Cymru fod Mr Povey yn ddiogel ac yn iach.