Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu’r “oedi” tros gyflwyno Safonau Iaith, ond maen nhw wedi canmol y Prif Weinidog am wrando ar eu dadleuon.
Meddai Robin Farrar, Cadeirydd y Gymdeithas: “Er nad yw’n ddymunol bod y Llywodraeth wedi achosi rhagor o oedi ar y safonau iaith, mae’n ganologol eu bod yn fodlon gwrando ar y mudiadau sydd wedi galw am newidiadau sylfaenol iddyn nhw.
“Rydyn ni’n disgwyl i Carwyn Jones gadw at ei air i wrando ac i weithredu’r newidiadau er mwyn datrys y gwendidau sylfaenol yn ei safonau drafft.
“Mae cannoedd o’n haelodau wedi pwyso ar y Llywodraeth i sicrhau bod pobl yn cael hawliau clir, yn hytrach na rheoliadau sydd ond yn hwylus i gyrff a chwmnïau.
“Fel maen nhw ar hyn o bryd, byddai’r Llywodraeth yn torri nifer o addewidion a wnaed gan y Prif Weinidog,” meddai Robin Farrar wedyn.
“Maen nhw’n gadael i gyrff gynnig gwasanaethau llai na sydd ar bapur mewn cynlluniau iaith ac yn caniatáu i wasanaethau sydd wedi eu contractio allan fod yn uniaith Saesneg.
“Mae nifer o gyrff hefyd am symud at sefyllfa lle maen nhw’n gweinyddu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, ond dyw’r safonau ddim yn cynnig dim modd i gefnogi’r dyhead yna.
“Yn wir, does yr un safon sy’n mynd i sicrhau bod cyrff yn cyflogi staff gyda sgiliau iaith er mwyn darparu’r gwasanaeth yn Gymraeg.”
Y cefndir
Yn gynharach eleni, fe ymatebodd cannoedd o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i’r ymgynghoriad, gan alw ar y Llywodraeth i gadw at ei haddewidion:
* i sicrhau bod y safonau yn creu hawliau clir i bobl;
* peidio â gadael i gyrff gynnig gwasanaethau sy’n llai na chynlluniau iaith;
* galluogi rhagor o gyrff i weithredu’n fewnol yn Gymraeg; a sicrhau bod gwasanaethau sy’n cael eu contractio allan yn cael eu darparu yn yr iaith.
Her i’r Safonau Iaith
Mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod yn Llanelli, bydd y mudiad yn gosod her i’r Safonau Iaith am 2:30yp, dydd Mawrth, Awst 5.