Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno Gradd er Anrhydedd i Cerys Matthews, cyn-brif gantores y band roc Catatonia. Cyflwynwyd y radd iddi brynhawn ddoe yn ystod seremoni raddio’r Coleg Gwyddoniaeth. Wrth dderbyn ei dyfarniad gan Brifysgol Abertawe dywedodd Cerys: “Mae’n fraint derbyn y dyfarniad hwn gan Brifysgol Abertawe. Mae’n sicr yn bleser i mi ar lefel bersonol. “Mae’r gydnabyddiaeth hon yn arbennig o foddhaus am i mi dyfu’n agosach fyth dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wrth ddathlu etifeddiaeth dyn ifanc a rannodd yr un olygfa, Dylan Thomas. “Rwy’n dwlu ar ddychwelyd i Abertawe… a theimlaf, er treigl amser a’r heriau economaidd, fod y ddinas wedi cadw’i chariad at ddiwylliant, ei hiwmor a’i henaid. “Ac o ran y pêl-droed, wel, efallai nad “standing on the North Bank, until the day I die” yw’r gân yn y Stadiwm Liberty mwyach, ond mae yno yn fy nghalon o hyd. “Derbyniaf y dyfarniad hwn, gan gydnabod fy niolch i’r rebeliaid, yr academyddion, y casglwyr, y bobl frwdfrydig a’r athrawon hynny sydd wedi annog fy chwilfrydedd, ac sy’n parhau i annog pobl eraill. “Bydd gen i a Phrifysgol Abertawe ein siwrnai dysgu ein hunain, ac mae’r dyfarniad hwn yn cadarnhau pwysigrwydd y bartneriaeth honno. Edrychaf ymlaen at weithio ar Wobr Dylan Thomas eleni, ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant, ac ar brosiectau yn y dyfodol yn ein harwain at ddathliadau canmlwyddiant Prifysgol Abertawe ei hun yn 2020.” Fe gafodd ei hanrhydeddu ag MBE yn gynharach eleni.