Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion yn dilyn ymosodiad ar ddyn 18 oed yng Nghaerdydd neithiwr.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar City Road tua 6.20yh.

Fe gafodd y dyn ei drywanu, ac mae’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty. Ond mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau nad yw ei fywyd mewn peryg.

Fe all unrhyw un sydd a gwybodaeth am yr ymosodiad gysylltu gyda’r heddlu ar y rhif 101, neu ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.