Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi galw ar yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru newydd, Stephen Crabb, i geisio newid meddwl ei blaid ar sut i ddatganoli treth incwm.

Fe alwodd Leanne Wood arno i gefnogi symud tuag at system ble na fyddai’r cyfraddau ar dreth incwm sydd am gael eu datganoli i Gymru’n cael eu cloi – y ‘lockstep’, fel mae’n cael ei alw.

O dan gynlluniau presennol Llywodraeth Prydain, byddai gan Lywodraeth Cymru hawl i amrywio cyfraddau treth incwm dim ond eu bod yn gwneud yr un peth i bawb.

Byddai hyn yn golygu na allwn nhw er enghraifft godi neu ostwng trethi ar gyfer pobl gyfoethog tra’n eu cadw’r un peth ar gyfer pobl dlawd – byddai’n rhaid i gynyddu neu ei ostwng i bawb ar yr un pryd.

Mae Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Lafur yn gwrthwynebu hyn, gan ddadlau nad yw hyn yn rhoi unrhyw hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru amrywio trethi.

Mae’r Ceidwadwyr yn y Cynulliad hefyd wedi dadlau yn erbyn y model arfaethedig o ddatganoli pwerau trethi i Gaerdydd, yn wahanol i’w cyd-bleidwyr yn Llundain oedd yn cefnogi’r clo.

Roedd cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn cefnogi’r model lockstep, ond yn ddiweddar fe awgrymodd ei olynydd Stephen Crabb ei fod yn ‘cadw meddwl agored am gloi cyfraddau’.

Opsiynau gwahanol ar y bwrdd

Mae arweinydd Plaid Cymru nawr wedi ysgrifennu ar Stephen Crabb yn gofyn iddo gefnogi cael gwared â’r lockstep.

Yn ôl Leanne Wood, bydda’r pŵer i godi cyfraddau trethi gwahanol ar bobl yn dibynnu ar eu hincwm yn golygu y byddai modd i’r pleidiau yng Nghymru cynnig ystod ehangach o ddewis i’r etholwyr pan ddaw at etholiad.

“Mae amser eto cyn i Fesur Cymru gwblhau ei hynt trwy Dŷ’r Cyffredin,” meddai Leanne Wood iddo yn y llythyr.

“Buaswn yn pwyso arnoch  ar bob cyfrif i gymryd cam mentrus fel eich gweithred gyntaf yn y swydd newydd hon. Mae gennych gyfle gwych i gyflwyno mesur allai wella sefyllfa enbyd economi Cymru.

“Gyda’r cloi cyfraddau, fydd dim modd defnyddio unrhyw bwerau a gaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol i rannu treth incwm. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno ar hyn.

“Bydd y gallu i amrywio trethi, ond yn fwy pwysig, y gallu i amrywio trethi heb i’r bandiau treth gael eu ‘cloi’ gyda’i gilydd yn galluogi’r gwahanol bleidiau i gynnig gwahanol ddewisiadau trethu a gwario i etholwyr Cymru. Mae democratiaeth ac atebolrwydd yn gyfyngedig heb i bobl yng Nghymru gael y dewisiadau hyn.”

Yn y gorffennol mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi disgrifio datganoli pwerau treth incwm a chynnwys y lockstep fel rhoi car “sydd ond ag un gêr” i rywun.