Rhan o boster y cyfarfod cyhoeddus (o wefan yr ymgyrch)
Mae ymgyrchwyr yn dweud bod mwy a mwy o gefnogaeth i’r syniad o ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.

Roedd cyfarfod yn Nhregaron neithiwr yn rhan o ymgyrch Traws Link Cymru, sydd eisiau ailagor y lein trwy Lanbedr Pont Steffan.

Maen nhw’n hawlio erbyn hyn bod tuag 20 o Aelodau Cynulliad yn cefnogi a “nifer o aelodau seneddol” hefyd.

Ddiwedd Mehefin, fe gyhoeddon nhw fod chwech o gynghorau cymuned lleol wedi cefnogi’r ymgyrch ac mae deiseb wedi ei lansio hefyd.

Yn y lle cynta’, maen nhw’n galw am gynnal astudiaeth i weld a fyddai’n talu’i ffordd i ailagor y rheilffordd, gan ddadlau mai dim ond ychydig filltiroedd sydd wedi diflannu’n llwyr.

‘Camgymeriad’

Camgymeriad oedd cau’r rheilffordd yn yr 1960au, meddai’r ymgyrchwyr, sydd hefyd eisiau ailagor y cysylltiad rhwng Afon Wen a Bangor er mwyn creu lein o amgylch arfordir Cymru.

Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai’r gost o ailagor y lein yn ormod gan fod adeiladu wedi bod ar rannau ohoni.

“Llanbedr Pont Steffan yw’r unig dre’ prifysgol yng Nghymru sydd heb gysylltiad rheilffordd,” meddai llefarydd ar ran yr ymgyrch ar Radio Wales.