Llandudno a'r cylch - mwy na 5,000 o swyddi
Fe ddylai canolfannau gwyliau glan môr traddodiadol gael llawer mwy o sylw, yn ôl adroddiad newydd.

Mae ymchwilwyr yn rhestru saith ardal yng Nghymru sy’n cynnal 1,000 neu fwy o swyddi twristaidd ar lan y môr.

Maen nhw’n dweud mai camargraff yw meddwl bod gwyliau traddodiadol wedi dirywio yn sgil teithiau rhad i’r cyfandir.

‘Byw ac iach’

“Mae’r dystiolaeth yn yr adroddiad newydd hwn yn dangos, er gwaetha’ cefndir cyni economaidd ers 2008, bod y diwydiant gwyliau glan môr yn parhau’n fyw ac iach,” meddai’r adroddiad gan Brifysgol Hallam yn Sheffield.

“Mae wedi dod trwy’r storm economaidd ac, o’i drin yn iawn, fe ddylai fod yn gallu talu ei ffordd yn y dyfodol hefyd.”

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae’r dystiolaeth yn dangos bod twristiaeth glan môr yn cyflogi mwy na’r diwydiant ceir, aerofod a dur.

Saith ardal yng Nghymru

Mae’r adroddiad yn rhestru 63 o ardaloedd lle mae o leia’ 1,000 o swyddi yn y diwydiant twristaidd.

Yr wythfed o’r rheiny yw ardal Llandudno, Conwy a Bae Colwyn lle mae tua 5,000 o swyddi – a rhagor yn cael eu cynnal yn anuniongyrchol.

Y canolfannau eraill yng Nghymru yw:

Dinbych y Pysgod – 2,000 (29fed ar y rhestr)

Rhyl a Phrestatyn – 1,600

Porthcawl – 1,400

Y Mwmbwls – 1,200

Aberystwyth – 1,200

Porthmadog – 1,200