Llun ffon symudol yn union wedi'r digwyddiad (PA AP PHoto Andrei Kashtanov)
Mae’r gymuned ryngwladol wedi galw ar i’r ddwy ochr yn Wcrain ganiatáu ymchwiliad llawn i drychineb awyren Malaysia.

Bellach, fe ddaeth yn amlwg fod naw o bobol o wledydd Prydain ymhlith y 298 sydd wedi eu lladd yn y digwyddiad yn nwyrain Wcrain.

Does neb yn amau chwaith mai cael ei saethu a wnaeth yr awyren Boeing 777 er ei bod  yn hedfan ar lwybr awyr cydnabyddedig.

Arbenigwyr AIDS ar yr awyren

Fe ddaeth yr awyren i’r ddaear yn agos at bentref o’r enw Grabovo yn nwyrain Wcrain, sydd yn nwylo gwrthryfelwyr.

Roedd bron hanner y teithwyr yn dod o’r Iseldiroedd a thua 100 ar eu ffordd i gynhadledd ryngwladol am y clefyd AIDS yn Awstralia.

Yn eu plith, yn ôl rhai adroddiadau, roedd dyn a fu’n Llywydd y Gymdeithas AIDS Ryngwladol, Joep Lange.

Ymchwiliad

Mae Ysgrifennydd Tramor newydd Prydain, Philip Hammond, ymhlith y rhai sydd wedi galw am ymchwiliad llawn.

Fe fydd cyfarfod o bwyllgor argyfwng Llywodraeth Prydain, Cobra, yn digwydd yn ddiweddarach heddiw.

Mae Llywodraeth Prydain a’r Unol Daleithiau wedi cynnig pa bynnag gymorth sydd ei angen i ymchwilio i’r digwyddiad.

Pwy oedd yn gyfrifol

Mae’r ddwy ochr yn y gwrthdaro yn Wcrain wedi beio’r llall am saethu’r awyren a oedd yn hedfan ar 33,000 troedfedd ar y ffordd o Amsterdam i Kuala Lumpur.

Yn ôl Llywodraeth Wcrain, mae ganddyn nhw dystiolaeth mai gwrthryfelwyr Rwsiaidd oedd yn gyfrfiol.

Fe ddywedodd Prif Weinidog Malaysia, Najib Razak, y dylai pwy bynnag oedd yn gyfrifol gael eu dwyn i gyfraith.