Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd y diwydiant aerofod yn derbyn £154 miliwn i ddatblygu prosiectau ymchwil a allai fod o fudd i Gymru.

Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg fuddsoddiad gwerth £154 miliwn yn y diwydiant yn ystod ymweliad â Sioe Awyr Farnborough yn Swydd Hampshire.

Mae disgwyl i gwmnïau o Gymru fel Airbus a Triumph Actuation and Motor Control Systems elwa o’r buddsoddiad.

Mae’r arian yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Prydain i’r diwydiant er mwyn creu awyrennau tawelach sy’n fwy eco-gyfeillgar.

‘Hwb’ meddai llefarydd

Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar yr economi, Eluned Parrott: “Mae’r cyhoeddiad hwn yn hwb enfawr i’r diwydiant aerofod yng Nghymru.

“Bydd yr arian parod ychwanegol hwn nid yn unig yn creu ac yn diogelu nifer o swyddi ond mae’n golygu buddsoddiad mawr yn economi gogledd Cymru.”