Mae dyn wedi ei anafu’n ddifrifol wedi i goeden ddisgyn arno ar gyrion pentref Clarach, ger Aberystwyth ddoe.

Credir fod y dyn, sy’n byw yn lleol ac yn ei 30au, yn ceisio torri coeden i lawr mewn coedwig pan syrthiodd coeden arall arno.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth Cymru a’r Gwasanaeth Ambiwlans eu galw i’r safle bnawn ddoe, ac fe aed a’r dyn i Ysbyty Bronglais gydag anafiadau difrifol.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Cafodd y gwasanaeth eu galw am 1.41 prynhawn ddoe i ddigwyddiad mewn coedwig yng Nghlarach, ger Aberystwyth.

“Cafodd ambiwlans brys ei anfon ac aed â dyn yn ei 30au i Ysbyty Bronglais, gydag anafiadau difrifol.”