Simon Thomas (Llun llyfrgell)
Mae Simon Thomas, Gweinidog Cysgodol Addysg, Sgiliau a’r Iaith Gymraeg Plaid Cymru, wedi cyflwyno Cwestiwn Brys i’w ateb yn y Senedd am effaith y toriadau pellach yn y ddarpariaeth ar gyfer dysgu Cymraeg i oedolion.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf ei bod yn torri cyllideb Canolfannau Cymraeg i Oedolion (CiO) o 7% pellach ar gyfer blwyddyn 2014/15.

Ym mis Ionawr, cafodd y sefydliad wybod fod y Llywodraeth yn torri’r gyllideb ar draws y sector o 8%, ac mewn llythyr at Ganolfannau Cymraeg i Oedolion, mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn cwtogi’r gyllideb ymhellach o 7% gan gydnabod y bydd y toriad yn un “heriol iawn” i’r ganolfan.

Wrth gyhoeddi ei fod am gyflwyno’r mesur, galwodd Mr Thomas ar yr eisteddfodwyr fydd yn heidio i Lanelli ymhen rhyw dair wythnos “i’w gwneud hi’n glir iawn i’r Prif Weinidog eu bod yn disgwyl ymateb llawer gwell” na’r hyn mae wedi ei gyhoeddi hyd yma.

“Tric sinigaidd”

“Mae’n dod yn amlycach bod cyhoeddiad y Prif Weinidog o ddarparu arian ychwanegol i gefnogi’r iaith Gymraeg ychydig wythnosau yn ôl, yn dric sinigaidd.

“Dim ond drwy ladrata oddi wrth ddarpariaeth Gymraeg i oedolion mae wedi dod o hyd i arian ychwanegol ar gyfer y ‘mentrau’ iaith Gymraeg. “

“Nid yw Llywodraeth Cymru wedi dysgu dim wedi eu ‘sgwrs fawr’ â’r genedl am sut i ymateb i’r her y mae cyfrifiad 2011 yn ei ddangos. Rydym angen cefnogaeth a gweithredoedd clir i’r iaith ar draws pob maes gweithgarwch, nid gwerthu’r fuwch i brynu tarw er mwyn cael penawdau newyddion da un wythnos.,” meddai.

Bydd swyddogion o Lywodraeth Cymru yn cwrdd â chyfarwyddwyr y chwe Chanolfan Cymraeg i Oedolion ar 15 Gorffennaf yn ôl datganiad gan y Llywodraeth i “ganfod effaith bosibl y setliad hwn, lliniaru’r effaith lle bo hynny’n bosibl, a phenderfynu ar y blaenoriaethau a’r ffordd ymlaen ar gyfer y sector.”