Mae becws yn Rhuthun wedi cael ei ddifrodi gan dân y bore ‘ma.
Cafodd diffoddwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i fecws Chatwins am tua 7 o’r gloch bore dydd Iau.
Mae’r tân wedi achosi difrodi sylweddol i’r adeilad.
Nam mewn oergell yn y becws oedd yn gyfrifol am achosi’r tân, yn ôl adroddiadau.
Mae Ffordd Wynnstay wedi cau i’r ddau gyfeiriad er mwyn i ddiffoddwyr o Ruthun a Dinbych ddelio a’r digwyddiad.
‘Becws prysur’
Dywedodd y cynghorydd tref Ruthun, Geraint Woodford wrth y Daily Post:
“Mae’r becws wastad yn brysur ac mae caffi yno hefyd. Mae lot fawr o bobol yn ei ddefnyddio, ac mae’n drist iawn fod hyn wedi digwydd.”
Fe fydd y gwasanaeth tân yn cynnal ymchwiliad i achos y tân.