Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi croesawu cyhoeddiad y bydd dwy ardal o ddŵr oddi ar arfordir Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynnal profion llanw a thonnau i gynhyrchu ynni.

Cyhoeddwyd mai Wave Hub sydd wedi cael y gwaith o reoli safle tonnau De Sir Benfro a Menter Môn fydd yn gofalu am safle tonnau yng Ngorllewin Ynys Môn. Mae’n bosibl y bydd y ddau gwmni hefyd yn gwneud gwaith paratoi fel cynnal arolygon neu osod seilweithiau er mwyn gwneud y safle’n fwy deniadol i ddatblygwyr.

Yn y cyfamser, Minesto sydd wedi cael yr hawliau i ddatblygu safle llanw ger Caergybi.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru y gall manteision ynni morol “adfywio diwydiant ac economi Cymru”.

‘Cam pwysig’

“Mae dyfroedd byrlymus ein harfordir yn berffaith i gynnal prosiectau ynni morol adnewyddadwy. Mae gennym y gallu i gynhyrchu ynni ac i allforio gwybodaeth, technolegau a gwasanaethau ynni morol hefyd.

“Gall y manteision i Gymru fod yn sylweddol – gall adfywio’r diwydiant a’r economi, lleihau allyriadau carbon a hybu ynni cynaliadwy hefyd.

“Mae’r cyhoeddiad hwn felly yn gam pwysig i’n helpu i ddiffinio Cymru fel lleoliad allweddol ar gyfer ynni morol ac mae’n arwain y ffordd i fentrau ynni adnewyddadwy masnachol.”