Ann Clwyd - helynt tros ddewis olynydd
Mae arweinwyr Llafur yn un o’i hetholaethau Cymreig wedi awgrymu eu bod yn “mynd ar streic” tros ddewis ymgeisydd seneddol newydd.

Fe awgrymodd Ysgrifennydd y Blaid Lafur yn etholaeth Cwm Cynon na fydd y swyddogion yn fodlon cynnal y broses o ddewis olynydd i’r Aelod Seneddol Ann Clwyd.

Maen nhw’n anhapus am fod y blaid yn Llundain yn mynnu eu bod yn cyfyngu’r dewis i ferched yn unig.

Gwrthod cynnal pleidlais

Yn ôl Alun Williams, mae’r aelodau lleol yn gwrthwynebu hynny ac yn siomedig gyda diffyg ymateb y blaid Brydeinig i’w protestiadau.

Fe ddywedodd wrth Radio Wales na fydden nhw’n cynnal y bleidlais – fe allai hynny olygu bod y blaid yn ganolog yn gorfod ceisio gwneud hynny.

“Rhaid i ni wneud yn glir i’r blaid nad ’yn ni’n hapus gyda’r broses,” meddai. “R’yn ni wedi cael ein trin yn wael ac r’yn ni’n siomedig gyda methiant y blaid i ymateb.”

Y cefndir

Mae’r Blaid Lafur yn  defnyddio rhestrau menywod yn unig er mwyn ceisio cynyddu nifer y merched yn Nhŷ’r Cyffredin.

Dim ond tair menyw oedd wedi cynrychioli unrhyw sedd Gymreig yn San Steffan cyn Ann Clwyd a dim ond 13  sydd wedi gwneud hynny erbyn heddiw.