Mae deiseb wedi cael ei hagor yn gofyn i’r Cynulliad annog Llywodraeth Cymru i ystyried gwneud gwaith cynnal a chadw ar gofeb i Lywelyn ein Llyw Olaf yng Nghilmeri.

Cyngor Cymuned Cilmeri sydd yn cyflwyno’r ddeiseb, ac mae wedi’i chefnogi gan ddegau o bobol hyd yma, gan gynnwys yr academydd Dr Simon Brooks.

Dywed y Cyngor eu bod nhw’n cyflwyno’r ddeiseb “oherwydd pwysigrwydd cenedlaethol” y gofeb.

Mae’r ddeiseb yn gofyn am godi arwyddion brown ar ffordd A483 i’r ddau gyfeiriad er mwyn denu twristiaid i’r safle.

Maen nhw hefyd yn galw ar y Cynulliad i gydweithio â Chyngor Sir Powys, Cyngor Cymuned Cilmeri a Cadw i gynnal a chadw’r gofeb “er mwyn i ymwelwyr allu mwynhau ein safle sydd o arwyddocâd cenedlaethol a hanesyddol mewn amgylchedd diogel a phriodol”.

Gofyniad ola’r ddeiseb yw bod Cynllun Dehongli Lloyd Brown, sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd Llywelyn fel Tywysog brodorol olaf Cymru, yn cael ei weithredu er mwyn “meithrin ymdeimlad o genedligrwydd a hunaniaeth Gymreig”.

Mae modd llofnodi’r ddeiseb yma.