Ann Clwyd
Mae Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon, Ann Clwyd wedi croesawu casgliadau Adroddiad Evans i’r modd y gall cleifion wneud cwynion am y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Daeth Adroddiad Evans i’r casgliad y dylai’r Gwasanaeth Iechyd fanteisio ar y cyfle i wella gwasanaethau pan fyddan nhw’n derbyn cwynion am ofal cleifion.
Mae Ann Clwyd wedi bod yn ymgyrchu i wella gwasanaethau yn dilyn marwolaeth ei gŵr yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Cafodd yr adroddiad annibynnol ei gomisiynu gan y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford a’i gwblhau gan gyn-brif weithredwr a rheolwr gyfarwyddwr Panasonic, Keith Evans.
Mae’r adroddiad yn cynnwys mwy na chant o argymhellion i wella’r broses o gwyno i’r Gwasanaeth Iechyd.
Mae’r argymhellion yn cynnwys cynyddu amlygrwydd a hyrwyddo’r dulliau o wneud cwynion, gan fod yr adroddiad wedi dod i’r casgliad ei bod yn “anodd gwybod ble i ddechrau”.
Yn ôl yr adroddiad, mae ‘Gweithio i Wella’, sef y system gwyno yn “gadarn ond mae’n amrywio ar draws sefydliadau”.
Awgrymodd yr adroddiad hefyd fod angen sicrhau “newid yn y diwylliant” er mwyn sicrhau nad yw “diwylliant o beidio â rhoi bai” yn datblygu “ar bob lefel”.
‘Dadansoddiad trylwyr’
Wrth groesawu’r adroddiad, dywedodd Ann Clwyd: “Mae hwn yn ddadansoddiad trylwyr o’r system gwynion bresennol yng Nghymru o’r top i’r gwaelod, sy’n adlewyrchiad teg o rwystredigaethau’r sawl sydd wedi’i brofi, ac mae’n egluro argymhellion i newid wrth Lywodraeth Cymru.
“Mae casgliadau Keith Evans yn cyfateb fwy neu lai’n union i’r negeseuon sydd wedi fy nghyrraedd o bob rhan o Gymru gan y sawl sydd wedi ceisio cwyno ac yn wir, mae’r mewnwelediad yn debyg iawn i’r rheiny yn fy adolygiad fy hun o’r broses o ymdrin â chwynion i’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.
“Rwy’n cytuno ag e fod y system gwynion wedi cael ei hamddifadu’n ofnadwy ac nad oes digon o adnoddau ar ei chyfer a rhaid ymateb i hyn yn gyflym.
“Rwy’n ategu ei argymhellion ynghylch darparu gwell wybodaeth i gleifion ynghylch sut i gwyno ac ynghylch hyfforddiant a chefnogaeth briodol i staff ynghylch ymdrin â chwynion.
“Dylid gwneud hyn yn gyflym.”
Ond ychwanegodd fod diffyg arweiniad yn broblem lawer iawn fwy anodd ei datrys, gan groesawu sefydlu swydd Rheoleiddiwr Cwynion Cenedlaethol i Gymru.
“Mae’n anghyfiawn fod y Gwasanaeth Iechyd yn archwilio’i hun ac mae angen chwistrelliad o annibyniaeth yn gyflym er mwyn gwella hyder y cyhoedd yn y system,” meddai.