Mae Cyngor Gwynedd wedi cael ei beirniadu’n ddiweddar am ystyried camau disgyblu yn erbyn staff sydd yn gwrthod cyfarch yn y Gymraeg.

Yn ôl Adroddiad Monitro Cynllun Iaith Cyngor Gwynedd, byddai’r cyngor “yn parhau i bwyso ar staff sy’n amharod i ddefnyddio’r iaith Gymraeg, a bydd ystyriaeth yn cael ei roi i fesurau disgyblu mewn rhai amgylchiadau”.

Ond yn ôl un cynghorydd lleol, Louise Hughes o Langelynnin, ni ddylai’r cyngor orfodi pobl i siarad iaith benodol “mewn cymdeithas amlddiwylliannol”.

Cyngor Gwynedd yw’r unig awdurdod lleol yng Nghymru sydd â pholisi o weithredu’n fewnol yn yr iaith Gymraeg.

Ond beth yw eich barn chi? A ddylai Cyngor Gwynedd gael disgyblu aelodau o staff sydd ddim yn cyfarch cwsmeriaid a’r cyhoedd yn y Gymraeg?

A yw’n bwysig mai Cymraeg sydd yn cael ei glywed yn y canolfannau hamdden gan blant y sir, o ystyried bod 89% o’r rheiny o dan 16 yn siarad Cymraeg?

Neu a yw’n gam yn rhy bell i orfodi gweithwyr i gyfarch mewn un iaith os nad ydyn nhw mor hyderus yn ei siarad? A ddylai Cyngor Gwynedd ailystyried yr opsiwn o ddisgyblu staff?