David Jones
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi beirniadu isadeiledd Cymru ar ôl blynyddoedd o ddiffyg buddsoddi.
Dywedodd David Jones AS bod Cymru ar ei hol hi o’i gymharu â Lloegr a bod angen gwella rheilffyrdd, ffyrdd a band eang yn y wlad.
Mae David Jones yng Nghaerdydd i lansio adroddiad Gweithgor Seilwaith Swyddfa Cymru sy’n amlygu’r gwahaniaethau rhwng systemau cynllunio Cymru a Lloegr.
Daeth ei sylwadau mewn araith i Fforwm Polisi Cymru lle bu’n annog Llywodraeth Cymru i gynnal diwygiadau radical i’r system gynllunio i symleiddio’r gwaith o ddatblygu seilwaith newydd.
Mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r Mesur Cynllunio newydd, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, i weithredu diwygiadau effeithiol er mwyn darparu’r seilwaith sydd ei angen i dyfu economi Cymru.
Mae hefyd wedi pwysleisio sut mae diwygiadau cynllunio radical Lloegr yn sail i gynllun economaidd hirdymor Llywodraeth y DU.