Manon Steffan Ros sy'n cymryd rhan yn yr ympryd
Mae ymgyrchwyr dros y Gymraeg wedi dechrau ymprydio am 24 awr heddiw er mwyn cefnogi’r hawl i wrthod codi tai newydd os ydyn nhw am arwain at niweidio’r iaith Gymraeg.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, nid yw Bil Cynllunio drafft Llywodraeth Cymru yn cynnwys yr un cyfeiriad at y Gymraeg – er bod y Gynhadledd Fawr, sef ymgynghoriad y Llywodraeth ar sefyllfa’r iaith, wedi argymell newidiadau i’r gyfraith gynllunio er lles yr iaith.

Mae’r ymprydwyr yn galw am newidiadau a fyddai’n gosod anghenion lleol fel man cychwyn y system yn hytrach na thargedau tai sy’n seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth genedlaethol.

Maen nhw hefyd am sicrhau bod effaith datblygiadau ar y Gymraeg yn cael ei asesu, a bod gan gynghorwyr rym cyfreithiol i dderbyn neu wrthod datblygiadau ar sail eu heffaith ar y Gymraeg.

‘Anghytuno’

Ymysg y rhai fydd yn ymprydio bydd yr awdures Manon Steffan Ros, Angharad Tomos, Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, Mared Ifan a Iolo Selyf James o fand y Ffug.

Wrth esbonio ei rhesymau am ymprydio, dywedodd Manon Steffan Ros: “Yn syml iawn, does dim hawl yng Nghymru i wrthod caniatâd cynllunio ar sail iaith yn unig. Y neges ydi nad ydi’r iaith yn ddigon pwysig i’w ystyried pan fydd cwmniau mawr eisiau codi 300 o dai ar gyrion eich pentre’. Dwi’n anghytuno efo hynny.”

Ychwanegodd Cen Llwyd, llefarydd Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  “Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i ddangos eu bod nhw o ddifrif am ddiogelu a chryfhau cymunedau Cymraeg a sicrhau bod pobl yn cael byw yn Gymraeg.”

Ymateb y Llywodraeth

Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Cadarnhaodd y Prif Weinidog ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Gymraeg yn ei ddatganiad polisi ar 17 Mehefin.

“Mae’r Nodyn Cyngor Technegol, TAN 20, yn ei gwneud yn glir mai’r lle mwyaf priodol o fewn y system gynllunio ar gyfer ystyried effeithiau datblygiadau ar y Gymraeg yw trwy’r Cynllun Datblygu Lleol.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i system sy’n seiliedig ar gynllun a dylai awdurdodau cynllunio lleol wneud yn siŵr eu bod yn ystyried y Gymraeg wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol.  I’w helpu, cyhoeddwyd canllaw ymarfer ar 17 Mehefin i gyd-fynd â datganiad y Prif Weinidog.”