Y Cynghorydd Aled Evans
Mae ofnau yng Ngwynedd nad yw’r galw lleol am dai yn cael ei fesur yn gywir, a bod angen i’r cyngor sir – yn hytrach na chynghorau cymuned unigol – edrych yn fanwl ar y sefyllfa.
Ond mae Cyngor Gwynedd yn dweud nad yw’n ymarferol na chost effeithiol iddyn nhw edrych ar anghenion tai fesul ardal cyngor cymuned, tref a dinas.
Bu neilltuo tir ar gyfer codi tai yn daten boeth wedi i’r cyngor sir amlinellu bwriad, yn eu Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd ag Ynys Môn, i ganiatáu codi 4,292 o dai newydd yng Ngwynedd dros y 12 mlynedd nesaf.
Yn dilyn cwynion bod codi miloedd o dai am fwydo mewnlifiad, mae arweinwyr Cyngor Gwynedd wedi ymateb trwy ddweud eu bod yn “croesawu unrhyw dystiolaeth” gan gynghorau cymuned, tref a dinas yng Ngwynedd sydd eisiau mesur y galw am dai yn eu hardaloedd.
Yn ei lythyr at gynghorau cymuned, tref a dinas mae deilydd portffolio Cynllunio Gwynedd, y Cynghorydd John Wyn Williams, yn ‘pwysleisio’r ffaith fod yn rhaid i’r Cynllun [Datblygu Lleol] fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn’.
Angen adnoddau i fesur yr angen
Ond mae un o gynghorwyr Plaid Cymru yn rhybuddio nad oes gan gynghorau cymuned yr adnoddau na’r arbenigedd i fesur yr angen am dai, ac yn pwyso ar Gyngor Gwynedd i sicrhau fod digon o arian ar gael i wneud y gwaith.
Mae’r Cynghorydd Plaid Cymru Aled Evans o Chwilog yn galw ar holl gynghorwyr y sir i bwyso ar y Cynghorydd John Wyn Williams, yr aelod cabinet dros Gynllunio, “i sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu rhoi i’r adolygiadau lleol fel bod y sir i gyd yn cael sylw teg”.
Ond mewn datganiad i gylchgrawn Golwg, mae’r Aelod Plaid Cymru o Gabinet Gwynedd sydd â chyfrifoldeb am Gynllunio yn dweud: “Ni chredir ei bod yn opsiwn ymarferol nac ychwaith cost effeithiol i Gyngor Gwynedd gynnal neu gefnogi arolygon / holiaduron lleol o bob ardal Cyngor Cymuned perthnasol o fewn y sir.”
Perygl o orfod talu’n ddrud
Mae’r Cynghorydd Evans yn galw ar Gyngor Gwynedd i ganfod yr arian i wneud yr arolygon manwl o’r angen lleol am dai newydd.
“Rydym i gyd yn deall bod adnoddau a phres yn brin, ond ni chawn y cynllun yma yn iawn y mae peryg i ni orfod talu yn ddrud yn y dyfodol yn economaidd, cymdeithasol ac wrth gwrs yn ieithyddol.”
Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu ymgynghori’n gyhoeddus ar eu Cynllun Datblygu Lleol ddiwedd y flwyddyn.
“Byddwn yn rhoi sylw teilwng i bob darn o dystiolaeth ddilys a gyflwynir yn ystod cyfnod paratoi’r cynllun,” meddai’r Cynghorydd John Wyn Williams.
Stori lawn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg