Ty Dylan Thomas yn Nhalacharn
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi rhoi caniatâd i godi melin wynt gyferbyn ag un o atyniadau twristaidd mwya’r ardal.

Heddiw, penderfynodd aelodau o bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gaerfyrddin roi cymeradwyaeth terfynol i’r cynllun dadleuol, gan fynd yn erbyn cyngor swyddogion.

Mae’r penderfyniad yn golygu y bydd  tyrbin gwynt 45m yn cael ei adeiladu gyferbyn â’r tŷ y bu’r bardd Dylan Thomas yn byw ynddo am flynyddoedd olaf ei fywyd.

Mae Cymdeithas Dylan Thomas eisoes wedi dweud y byddai’r penderfyniad yn “gwawdio canmlwyddiant geni’r bardd”.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddan nhw’n galw’r cynllun i mewn i gael ei archwilio ymhellach.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, cafodd nifer o bryderon eu codi ac fe dderbyniodd y cyngor 422 o lythyron yn gwrthwynebu’r cais.

Ymateb cyngor sir

Dywedodd cadeirydd pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Anthony Jones: “Cafodd y penderfyniad i roi caniatâd cynllunio ar gyfer tyrbin gwynt yn Fferm Mwche ei ddwyn yn ôl i’r pwyllgor cynllunio fel bod aelodau’n gallu cymeradwyo’r rhesymau dros ganiatáu’r cais, i gymeradwyo amodau cynllunio, a’u bod yn cytuno y dylid bwrw ymlaen â’r cais.

“Cafodd Llywodraeth Cymru geisiadau i alw’r cais i mewn ond maen nhw wedi penderfynu peidio â gwneud hynny ar y sail bod y cais o ddim mwy na phwysigrwydd lleol.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â’r holl gyrff perthnasol fu’n rhan o’r ymgynghori cyn y penderfyniad gwreiddiol ac wedi cymryd nifer o faterion megis ynni adnewyddadwy a thwristiaeth i ystyriaeth.”