Prifysgol Caergrawnt
Mae myfyrwyr o’r Cymoedd bum gwaith yn llai tebygol o wneud cais i astudio ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt na myfyrwyr dros y ffin, a deg gwaith yn llai tebygol o gael eu derbyn yno.

Dyma sail adroddiad gan gyn-ysgrifennydd Cymru, Paul Murphy AS, wrth iddo geisio canfod pam fod cyn lleied o ddisgyblion o Gymru yn astudio yn Rhydychen a Chaergrawnt, neu ‘Oxbridge’.

Daeth i’r casgliad mai lefel y cyrhaeddiad yng Nghymru, agwedd athrawon tuag at y ddwy brifysgol a diffyg pwyslais ar waith academig yn y Fagloriaeth Gymreig (BAC) oedd wrth wraidd y ffigyrau.

Mewn ymateb i’r adroddiad, mae’r Gweinidog Addysg wedi dweud y bydd cynllun yn cael ei roi ar waith i helpu ysgolion a cholegau i gefnogi myfyrwyr Cymru sydd am fynd i brifysgolion gorau Prydain.

Perfformiad isel

Fe wnaeth Paul Murphy gymharu nifer y ceisiadau i’r ddwy brifysgol o Merthyr Tudful, Blaenau Gwent,  Caerffili,  Torfaen, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf gyda rhai o Hertfordshire, ger Llundain – oherwydd bod tua 1 miliwn o bobol yn byw yn y ddwy ardal.

“Mae myfyriwr o Gymru ddeg gwaith yn llai tebygol o gael eu derbyn a phum gwaith yn llai tebygol o wneud cais yn y lle cyntaf” meddai cyn-ysgrifennydd Cymru.

“Mae’n ymddangos yn hynod debygol fod y perfformiad cymharol isel yn yr asesiadau ar ôl arholiadau TGAU yn ffactor yn y nifer cymharol isel o geisiadau i Rydychen a Chaergrawnt o Gymru. Mae’r prifysgolion yn ystyried yr asesiadau uchod yn hynod bwysig.”

Argymhellion

Rhai o argymhellion Paul Murphy oedd gosod mwy o waith academig o fewn y BAC ac y dylai athrawon “werthu’r” prifysgolion i ddisgyblion a chodi ymwybyddiaeth ohonyn nhw o fewn gwersi.

Fe awgrymodd hefyd y dylai Caergrawnt a Rhydychen ddarparu deunydd Cymraeg ar gyfer pecynnau cyflwyno i ddisgyblion o ysgolion cyfrwng Cymraeg.

‘Gwaith i’w wneud’

Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, wedi dweud y bydd yn ystyried yr argymhellion yn llawn:

“Mae hwn yn bwnc astrus ac yn amlwg mae gwaith i’w wneud.

“Fe fydda i’n ystyried yr argymhellion yn llawn, ond yn y cyfamser dwi wedi cytuno i dreialu cynllun hwb i helpu ysgolion a cholegau i gydweithio â phrifysgolion i gefnogi myfyrwyr Cymru sydd am fynd i brifysgolion gorau’r DU.

“Dw i wedi gofyn am i waith ar hyn ddechrau ar unwaith.”