Mae dyn 75 oed o ardal Wrecsam wedi cael ei arestio fel rhan o Ymchwiliad Pallial.

Cafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn anweddus ac anwedduster dybryd.

Honnir bod y troseddau wedi digwydd yn erbyn bachgen a oedd yn 12-13 oed ar y pryd, rhwng 1972 a 1973.

Mae Ymchwiliad Pallial yn ymchwilio i achosion hanesyddol honedig o gam-drin rhywiol mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru, sy’n cael ei arwain gan yr Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol (NCA).

Mae’r dyn wedi cael ei gludo i orsaf yr heddlu’n lleol lle bydd yn cael ei holi gan swyddogion o Ymchwiliad Pallial.

Y dyn yw’r unfed ar hugain i gael ei arestio fel rhan o’r ymchwiliad.

Mae naw o bobl wedi cael eu cyhuddo o nifer o droseddau rhyw difrifol.