Mae tua 50 o ddiffoddwyr tân yn ceisio rheoli fflamau mewn canolfan ailgylchu ym Mhontyclun, Rhondda Cynon Taf.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stâd Ddiwydiannol Lôn Coedcae am tua 4:30 y bore ‘ma.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mae chwe chriw tân ar y safle ond mae’r digwyddiad o dan reolaeth. Credir fod llawer o adnoddau ailgylchu o fewn yr adeilad.

Nid oes adroddiadau fod unrhyw un wedi eu hanafu ar hyn o bryd.

Mae’r gwasanaethau brys wedi cael eu galw i dannau mewn canolfannau ailgylchu yn Nhredelerch, Wrecsam a Llandŵ ers mis Gorffennaf 2013.