Y Ty Gwyn yn Washington
Mae America yn anfon hyd at 275 o filwyr i Irac i amddiffyn llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau a buddiannau eraill, ac yn ystyried anfon milwyr o’r lluoedd arbennig wrth i’r sefyllfa fregus yn y wlad barhau.

Ond mae’r Tŷ Gwyn wedi mynnu na fydd yr Unol Daleithiau yn anfon milwyr ymladd yno gan wthio America i ryfel arall yn Irac.

Mewn datganiad i Gyngres America neithiwr, dywedodd yr Arlywydd Barack Obama y byddai’r milwyr yn aros yn Irac nes bod y sefyllfa yno wedi gwella.

Mae tua 160 o filwyr eisoes yn Irac, gan gynnwys 50 o Forlu’r Unol Daleithiau, a mwy na 100 o filwyr eraill.

Yn ôl y Tŷ Gwyn mae llywodraeth Irac wedi cydsynio i ganiatáu milwyr America i’r wlad er mwyn cynorthwyo lluoedd y wlad.

Roedd milwyr America wedi gadael Irac yn 2011 yn dilyn y rhyfel yno.

Mae’r grŵp eithafol Isis wedi meddiannu rhannau helaeth o dir yn Irac dros y dyddiau diwethaf ac mae America wedi dweud ei bod yn barod i drafod gydag Iran ynglŷn â sut y gall y ddwy wlad atal y gwrthryfelwyr Swnni.

Ym Mhrydain, mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Tramor William Hague amlinellu datblygiadau yn y berthynas gydag Iran ac mae wedi awgrymu y gallai Prydain gael presenoldeb diplomyddol yn Tehran.