Mae merch dair oed wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn tân yng Nghaerfyrddin neithiwr.

Mae mam y ferch, sydd yn ei hugeiniau, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, ac mae tad y ferch hefyd yn cael triniaeth yn yr ysbyty.

Cafodd y gwasanaethau brys ac ambiwlans awyr eu galw i stryd Bryn Gorwel, ger Heol y Bracty yng Nghaerfyrddin am tua 6:15yh nos Sul.

Dywed Heddlu Dyfed Powys fod ymchwiliad yn parhau i achos y tân.

Cafodd y fam ei chludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe a chafodd y ferch fach ei chludo’n gyntaf i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin cyn cael ei throsglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle bu farw.

Mae aelodau’r teulu wedi cael gwybod ac yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol medd yr heddlu.