Mae’r cyhoedd wedi gorfod gadael parc busnes yng Nghasnewydd ac ysgol  wedi cau’n gynnar ar ôl i weithwyr ddod o hyd i’r hyn oedd yn cael ei amau o fod yn  hen fom o’r Ail Ryfel Byd.

Mae arbenigwyr ffrwydron ar y safle ym mharc busnes Maesglas ac mae pobol wedi cael eu gorchymyn i adael busnesau cyfagos, a thai ar Heol Mendalgief.

Bu’n rhaid i ddisgyblion ysgol gynradd Gatholig gyfagos St Michael fynd adre’n gynnar yn dilyn y darganfyddiad am 12.46 brynhawn yma.

Mae uned ffrwydron yr heddlu wedi cadarnhau erbyn hyn nad hen fom o’r Ail Ryfel Byd gafodd ei ddarganfod ond mae Heddlu Gwent yn annog y cyhoedd i gadw draw o’r ardal.