Mae Heddlu De Cymru’n apelio am lygad dystion yn dilyn damwain ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddoe.

Roedd beic modur Honda piws, Hyundai I30 a Vauxhall Astra glas i gyd yn rhan o’r gwrthdrawiad ar Ffordd Quarella tua 4:45 brynhawn Mercher.

Cafodd gyrrwr beic modur anafiadau difrifol ac mae’r heddlu nawr yn apelio am wybodaeth.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un a fu’n dyst i’r gwrthdrawiad neu a welodd y cerbydau’n cael eu gyrru  prynhawn dydd Mercher.

Cafodd y lon ei chau am 4 awr tra roedd yr Heddlu yn ymchwilio.,

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu ag Uned Plismona Ffyrdd Heddlu De Cymru ar 02920 633438 neu 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111