Y llong ofod
Mae disgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn paratoi at lansio taith i’r gofod y bore ma.

Os fydd y tywydd yn caniatáu, bydd llong ofod yn cael ei lansio o gae chwarae’r ysgol rhwng 9 a 10 o’r gloch.

Gyda chymorth arbenigwr mewn roboteg o Brifysgol Aberystwyth, mae’r disgyblion wedi adeiladu roced ar gyfer cynnwys y capsiwl gofod, a chreu pobl fach o glai a fydd yn teithio ynddi.

Y Daith

Balŵn tywydd llawn heliwm fydd yn cario’r llong ofod ac mae disgwyl i’r daith gyrraedd uchder o tua 30,000 metr cyn disgyn yn ôl i’r ddaear.

O dan y falŵn bydd capsiwl polystyren sy’n cynnwys dau gamera, dau olrheiniwr GPS a chyfrifiadur cartref bychan sy’n mesur uchder, tymheredd a sut mae’r falŵn yn symud. Bydd yr holl wybodaeth yma yn cael ei drosglwyddo yn ôl i’r ddaear.

Datblygwyd y dechnoleg ar gyfer y daith gan Dr Mark Neal, cydlynydd Grŵp Ymchwil Roboteg Ddeallus Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, a rhiant yn yr ysgol.

Mae’n disgwyl i’r daith gyfan gymryd rhwng 3 a 5 awr.

Y bobl fach wyrdd

Cyn y lansiad, dywedodd Clive Williams, Prifathro’r ysgol: “Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn falch o’r cyfle i fod yn lleoliad i’r digwyddiad cyffrous yma.

“Mae’r disgyblion wedi bod yn astudio gwaith am y gofod fel rhan o’r cwricwlwm gwyddoniaeth ac wedi cael llawer o brofiadau amrywiol wrth baratoi’r roced fel rhan o’u gwaith celf.

“Un o hoff straeon y disgyblion yw stori Y Bobl Fach Wyrdd ac maent yn edrych ymlaen at eu gweld yn gadael yr ysgol ac yn anelu tua’r gofod, gobeithio y down nhw nôl yn ddiogel!

“Hoffai’r ysgol ddiolch i rieni’r ysgol am eu brwdfrydedd ac i’r Brifysgol am bob cefnogaeth  gyda’r digwyddiad arbennig hwn”.