Maes Awyr Caernarfon
Mae adroddiad swyddogol wedi awgrymu y gallai rhew fod wedi bod yn gyfrifol am ddamwain awyren fechan a darodd goeden wrth agosáu at faes awyr Caernarfon, gan ladd tad ac anafu ei fab ifanc yn ddifrifol.

Fe wnaeth yr awyrem Piper Cherokee, a oedd yn cael ei hedfan gan John Nuttall, 61, golli pŵer wrth agosáu at faes awyr Caernarfon meddai’r adroddiad gan y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr (AAIB).

Dywedodd yr adroddiad: “Nid yw’r ymchwiliad wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o fethiant yn yr injan, ond roedd yr amodau atmosfferig yn addas ar gyfer rhew i effeithio ar y  carbwradur.”

Cafodd John Nuttall ei anafu’n ddifrifol yn y ddamwain ar 19 Mai, 2013.

Cafodd ei fab, Iain Nuttall, o Blackburn yn Sir Gaerhirfryn, ei ladd a chafodd ei ŵyr, Daniel Nuttall, oedd yn 5 oed, ei anafu’n ddifrifol.

Roedd y teulu’n hedfan o Blackpool i Gaernarfon pan ddigwyddodd y ddamwain.

Dywedodd yr adroddiad: “Cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal ar y teithiwr fu farw.  Roedd tystiolaeth i awgrymu nad oedd y teithiwr wedi cael ei ddal mewn lle gan harnais pan ddigwyddodd y ddamwain.”