Marchnad fwyd Glanyrafon yng Nghaerdydd
Fe fydd Llywodraeth Cymru heddiw’n cyflwyno cynllun gweithredu a fydd yn helpu i hybu twf o 30% yn y diwydiant bwyd a diod i £7 biliwn erbyn 2020.
Mae’r diwydiant bwyd ac amaeth eisoes yn cyfrannu £5.2 biliwn i economi Cymru gan gyflogi 45,000 o bobl.
Fe fydd y cynllun gweithredu, sy’n cael ei lansio gan y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, Alun Davies, yn ddiweddarach heddiw, yn rhestru 48 o gamau a fydd yn arwain at dwf a swyddi.
Bydd pwyslais arbennig ar ddatblygu sgiliau’r gweithlu a marchnata cynnyrch o Gymru a chreu Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod.
‘Partneriaeth’
Dywedodd Alun Davies cyn y lansiad yng Nghaerdydd: “Mae’n gyfnod cyffrous i fod yn rhan o’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru – ry’n ni’n gwneud cynnydd da ond mae’n rhaid i ni wneud mwy os ydym am gyrraedd ein targedau uchelgeisiol i hybu twf yn y sector o 30% dros y saith mlynedd nesaf.
“Wrth roi’r cynllun yma at ei gilydd rydym wedi gwrando ar farn y diwydiant ac wedi ymdrechu i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei angen er mwyn iddo ffynnu boed hynny’n well ymchwil, cymorth gweinyddol, help i ddarganfod cyfleoedd yn y farchnad, cyngor busnes a buddsoddiad ariannol.
“Er mwyn i’r cynllun fod yn llwyddiant mae’n rhaid iddo fod yn bartneriaeth rhwng y diwydiant a’r Llywodraeth ac fe fydd Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod newydd yn cynrychioli llais y diwydiant ac yn darparu arweiniad clir a chref.”
Mae’r gweinidog yn gwahodd ceisiadau o’r diwydiant ar gyfer swydd Cadeirydd y Bwrdd a fydd yn cael ei gyhoeddi yn Sioe Llanelwedd ym mis Gorffennaf.