Creodd Matthew Morgan argraff fel cefnwr
Eastern Province Kings 12 – 34 Cymru

Enillodd Cymru eu gêm gyntaf o’u taith haf i Dde Affrica heno, gan sgorio 5 cais yn y broses.

Sgoriodd yr ymwelwyr ddau gais buan yn y gêm, gyda dau o chwaraewyr y Gleision, Josh Turnbull a Cory Allen yn turio.

Er i’r tîm cartref geisio brwydro nôl i’r gêm, sgoriodd Cymru ddau gais arall yn fuan yn yr ail hanner – cais yr un i James Hook ac Alex Cuthbert.

Gyda’r Cymry’n arwain yn gyfforddus, daeth cais cysur i’r tîm cartref diolch i’r asgellwr Shakes Soyizwapi.

Er hynny, yr ymwelwyr oedd â’r gair olaf wrth i’r mewnwr o Gastell Newydd Emlyn, Gareth Davies groesi am bumed cais Cymru.

Wedi perfformiad disglair yn y gêm brawf ddiweddar, roedd tipyn o edrych ymlaen ymysg cefnogwyr Cymru i weld sut os byddai Matthew Morgan yn creu argraff unwaith eto.

Fe ddisgleiriodd y cefnwr bach chwim unwaith eto, a bydd llawer yn galw ar Warren Gatland i’w enwi yn y tîm i herio De Affrica ddydd Sadwrn.