Dan Lydiate
Mae yna ddisgwyl cychwyn bywiog i daith Cymru i Dde Affrica heno pan fyddan nhw’n herio’r Eastern Province Kings yn Stadiwm Nelson Mandela Bay.
Bydd carfan Cymru yn wyliadwrus o’r ddwy brawf yn erbyn De Affrica yn Durban ar Ddydd Sadwrn, 14 Mehefin, ac yn Nelspruit wythnos yn ddiweddarach, 21 Mehefin.
Bydd Dan Lydiate yn dechrau’r gêm ar ôl gwella o anaf i’w linyn y gar ac fe fydd yn gapten ar garfan sy’n cynnwys pedwar chwaraewr heb eu capio o’r blaen.
Mae tri o’r chwaraewyr hynny wedi’u henwi yn y XV a bydd yn dechrau gyda Matthew Morgan yn gefnwr, Steven Shingler yng nghanol cae a Jordan Williams ar yr asgell.
Yn ymuno â’r olwyr mae Alex Cuthbert a’i gyd-chwaraewr gyda’r Gleision, Cory Allen, yn ogystal â James Hook fel maswr a Rhodri Williams fel mewnwr.
Y blaenwr fydd yn dechrau’r gêm yw Paul James, sydd wedi ei enwi ochr yn ochr â Scott Baldwin a Rhodri Jones yn y rheng flaen, gyda Jake Ball a Ian Evans yn yr ail reng. Yn ymuno â Lydiate mae dau o’r Scarlets, Josh Turnbull a Dan Baker.
“Mae’n gyfle i weld nifer o’r garfan yn gwisgo crys Cymru ac yn cynrychioli eu gwlad a gweld sut y maent yn ymdopi a phwysau’r gêm’’, meddai hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, sy’n awyddus i weld sut fydd ei dim arbrofol yn perfformio.
Wrth edrych ymlaen at y gêm, dywedodd cefnwr newydd y EP Kings, Hansie Graaff, bod y tîm yn awyddus i ddangos eu doniau wrth iddynt edrych ymlaen at ddychwelyd i gystadleuaeth Cwpan Currie.
‘’Mae’n gêm arddangosfa felly nid oes unrhyw bwysau arnom ni, ond rydym hefyd ddim eisiau edrych fel ffyliaid’’, meddai Graaff.