Heddiw fe ddewiswyd y timau fydd yn wynebu’i gilydd yng ngrwpiau’r ddwy gystadleuaeth rygbi Ewropeaidd newydd – ac fe allai pethau’n sicr fod wedi bod yn haws i ranbarthau Cymru.
Cafodd y Scarlets eu dewis yng Ngrŵp Tri Chwpan Pencampwyr Ewrop, y brif gystadleuaeth, gyda’r pencampwyr presennol Toulon yn ogystal â Chaerlŷr ag Ulster.
Yn ymuno â nhw yn y gystadleuaeth honno mae’r Gweilch, fydd yn wynebu Northampton, Racing Metro a Treviso yng Ngrŵp Pump.
Yn y Cwpan Sialens fe fydd y Gleision yn herio Gwyddelod Llundain, Grenoble ac un o dimau buddugol y gemau rhagbrofol, tra bod y Dreigiau’n wynebu Stade Francais, Newcastle a’r tîm arall sydd yn dod drwy’r gemau rhagbrofol.
Rhys Evans sydd yn asesu gwrthwynebwyr y Cymry pan fydd y gystadleuaeth yn dechrau yn yr hydref.
Cwpan y Pencampwyr
Grŵp Tri: Toulon, Caerlŷr, Ulster, Scarlets
Mae’r Scarlets wedi’u dewis yn un o grwpiau anoddaf y gystadleuaeth. Er y bydd rhai o’r cefnogwyr yn nerfus o herio’r pencampwyr, Toulon, bydd eraill yn obeithiol y gall y grŵp gynnig nifer o atgofion bythgofiadwy sydd wedi dod yn nodweddiadol o hanes y Scarlets yn y gystadleuaeth.
Mewn ymateb i’r grŵp, dywedodd rheolwr y Scarlets, Simon Easterby, y byddai’n “gyffrous bod yn rhan, gyda chystadleuaeth o’r safon uchaf”.
Bydd Toulon, pencampwyr y gystadleuaeth am y ddwy flynedd diwethaf, yn hyderus o ennill am y trydydd tro yn olynol. Mae pencampwyr y Top 14 yn Ffrainc yn llawn sêr y byd rygbi, gan gynnwys Matt Giteau a Bryan Habana.
Serch hynny, bydd Toulon heb y maswr dylanwadol Jonny Wilkinson wrth iddo ymddeol o chwarae rygbi’r tymor diwethaf – ond fe fydd y Cymro Leigh Halfpenny’n ymuno er mwyn ysgwyddo’r baich cicio.
Caerlŷr yw tîm mwyaf llwyddiannus Lloegr yn y gystadleuaeth; pencampwyr yn 2001 a 2002, ac ail yn 1997, 2007 a 2009. Yn llawn enwau cyfarwydd o dîm Lloegr fel Tom Youngs a Geoff Parling (yn ogystal â’r Cymro Owen Williams), bydd Caerlŷr yn obeithiol o gyrraedd y rowndiau hwyrach.
Mae Ulster hefyd yn llawn chwaraewyr rhyngwladol ac yn aml yn agos i’r brig yn y Pro12. Bydd chwaraewyr adnabyddus fel Rory Best a Ruan Pienaar yn hollbwysig i obeithion y rhanbarth ond cael a chael fydd hi iddyn nhw gyrraedd y rownd nesaf wrth ystyried cryfder eu gwrthwynebwyr.
Grŵp Pump: Northampton, Racing Metro, Y Gweilch, Treviso
Bydd y Gweilch yn benderfynol o wella ar eu perfformiadau yn y gystadleuaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r grŵp yn cynnig rhai gemau diddorol iawn, gan gynnwys gemau yn erbyn Northampton a Racing Metro.
“Y geiriau sy’n dod i’r meddwl wrth edrych ar y grŵp yw cyffro llwyr”, medd rheolwr y Gweilch Steve Tandy wrth ymateb i’r grŵp. “Mae’n gyfle gwych a dwi methu aros i ddechrau.”
Yn dilyn buddugoliaeth y clwb ym mhencampwriaeth y Cynghrair Arriva yn Lloegr a Chwpan Amlin, bydd Northampton yn obeithiol o barhau a’r momentwm yn y bencampwriaeth newydd.
Mae’r grŵp yn cynnig siawns i’r Cymro, George North wynebu lawer o’i gyd-wladwyr. Bydd y Gweilch hefyd yn edrych i ddial ar Northampton yn dilyn dwy golled yn y gystadleuaeth tymor diwethaf.
Gyda nifer o sêr tîm cenedlaethol Cymru yn ei phlith, bydd Racing Metro hefyd yn croesawu’r sialens o herio’r Gweilch. Bydd Dan Lydiate, Mike Philips a Jamie Roberts yn gweithio’n galed i sicrhau bod y tîm o Ffrainc yn cyrraedd rowndiau hwyrach.
Bydd y Gweilch yn hapus o weld eu hunain yn yr un grŵp a Treviso. Llwyddodd y rhanbarth i drechu’r tîm o’r Eidal ddwywaith y tymor diwethaf yn y Pro12, gan gynnwys buddugoliaeth o 75-7 ym mis Chwefror. Treviso’n annhebygol o ennill gêm yn y gystadleuaeth wrth ystyried cryfder y timau arall.
Cwpan y Sialens
Grŵp Un: Y Gleision, Gwyddelod Llundain, Grenoble, FIRA 1
Ar ôl tymor hynod siomedig i’r rhanbarth, bydd Gleision Caerdydd yn edrych i wella tymor nesaf a bydd y rheolwr newydd, Mark Hammett, yn edrych i sicrhau rhediad cwpan llwyddiannus i’r rhanbarth yn ei dymor cyntaf gyda’r clwb.
Gwrthwynebwyr anoddaf y Gleision fydd Gwyddelod Llundain. Yn y ddwy gêm ddiwethaf rhwng y timau, y Gleision oedd yn fuddugol. Bydd Hammett, felly, yn obeithiol iawn o ennill y grŵp a chyrraedd rowndiau hwyrach y gystadleuaeth.
Gall y Gleision ddisgwyl curo Grenoble hefyd, a orffennodd yn un ar ddegfed ym mhencampwriaeth y Top 14 tymor diwethaf. Annhebygol iawn o gyrraedd y rowndiau hwyrach.
Grŵp Dau: Stade Francais, Y Dreigiau, Newcastle, FIRA 2
Bydd y Dreigiau yn edrych ymlaen at y sialens o herio Stade Francais a Newcastle ac mae modd iddynt fod yn hyderus ar ôl perfformiadau positif iawn y tymor diwethaf.
Bydd canlyniadau yn erbyn Stade Francais yn angenrheidiol os ydi’r clwb am gyrraedd rowndiau hwyrach y gystadleuaeth.
Ond fe fydd y tîm o Baris yn hyderus o orffen y grŵp yn fuddugol wrth ystyried profiadau’r clwb yn y gystadleuaeth; llwyddodd y clwb gyrraedd rownd derfynol yr Amlin yn 2011 a 2013.
Mae’r tîm yn llawn sêr rhyngwladol, megis Digby Ioane a Pascal Pape, ac fe fyddwn nhw’n wrthwynebwyr cryf i’r Dreigiau.
Mae’r Newcastle Falcons hefyd yn hen gyfarwydd â’r gystadleuaeth yma wedi iddynt gyrraedd y rownd gynderfynol bedair gwaith.
Serch hynny, nid yw’r tîm o’r un safon ag yr oedden nhw yn y gorffennol ac fe lwyddon nhw i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr o wyth pwynt yn unig ar ôl ennill tair gêm yn unig drwy’r tymor. Bydd y Dreigiau yn edrych i wella ar eu perfformiad truenus y tro diwethaf i’r timau gwrdd pan enillodd Newcastle 29-0.