Sepp Blatter, Llywydd FIFA
Mae un o gyn-swyddogion FIFA wedi galw ar y llywydd Sepp Blatter i roi’r gorau i’w swydd.

Dywedodd Jack Warner, un o gyn-gydweithwyr Blatter o fewn y corff rheoli, na fydd FIFA “byth yn newid” tra ei fod e wrth y llyw.

Ymddiswyddodd Warner, oedd yn aelod o fwrdd rheoli FIFA am dri degawd, yn dilyn honiadau o dwyll yn 2011.

Roedd yna gyhuddiadau fod Warner yn rhan o dwyll yn ymwneud â thaliadau llwgr gan aelod arall o FIFA, Mohamed Bin Hammam o Qatar.

Er gwaetha’r galw arno i ymddiswyddo, mae disgwyl i Blatter gyhoeddi yn y Gyngres yn Sao Paolo heddiw ei fod yn sefyll am bumed tymor fel llywydd.

‘Ni fydd FIFA byth yn newid’

Ond dywedodd Warner wrth ITV: “Pe bai gan Blatter ronyn o barch, ni fyddai gyda FIFA o hyd.

“Rwy wedi bod gyda FIFA ers 30 o flynyddoedd… Fi o hyd yw’r swyddog sydd wedi para hiraf yn FIFA ac o dan Mr Blatter? Rwy’n dweud wrthoch chi na fydd FIFA byth yn newid o dan Mr Blatter.”

Mae Blatter wedi dweud bod honiadau o dwyll sy’n bygwth taflu cysgod dros Gwpan y Byd 2022 yn Qatar yn deillio o “hiliaeth”.

Mae papur newydd y Sunday Times yn honni eu bod nhw wedi gweld “cannoedd o ddogfennau” sy’n dangos bod Bin Hammam wedi awdurdodi taliadau i swyddogion yn ystod y proses o wneud cais i gynnal Cwpan y Byd.

Ond dywedodd Blatter fod y cyhuddiadau’n rhan o “storm yn erbyn FIFA”.

Cafodd Bin Hammam ei wahardd am oes gan FIFA yn 2012 tra ei fod e’n llywydd Confederasiwn Asia.

Mae ymchwiliad i’r broses o wneud cais ar gyfer Cwpan y Byd yn 2018 a 2022 wedi dod i ben, ac mae disgwyl i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi’n ddiweddarach eleni.