Chwaraewr amryddawn Siroedd Llai Cymru, Ruaidhri Smith oedd seren yr ornest yn erbyn Swydd Amwythig ym Mhontarddulais, wrth i’r Cymry sicrhau buddugoliaeth o wyth wiced heddiw.
Cipiodd Smith unarddeg o wicedi yn ystod yr ornest – pum wiced am 52 yn y batiad cyntaf a 6-24 yn yr ail fatiad, wrth i Swydd Amwythig gael eu bowlio allan am 62.
Cyfrannodd gyda’r bat hefyd, gan sgorio 40.
Enillodd Siroedd Llai Cymru’r dafl a gwahodd Swydd Amwythig i fatio’n gyntaf.
Cafodd yr ymwelwyr eu bowlio allan am 182, cyn i Siroedd Llai Cymru ymateb gyda chyfanswm o 197.
Cafodd Swydd Amwythig eu bowlio allan am 62 yn yr ail fatiad, ac fe gyrhaeddodd y Cymry’r nod gydag wyth wiced yn weddill.