Meri Huws
Saesneg yw prif iaith gwasanaethau gofal sylfaenol i fwyafrif siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Dyna yw un o brif ganfyddiadau’r adroddiad Fy Iaith, Fy Iechyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, sydd wedi cael ei lansio ym Mae Caerdydd heddiw.

Fe wnaeth yr adroddiad, sy’n cynnwys ymatebion gan dros 1,000 o siaradwyr Cymraeg, hefyd ganfod fod 82% o’r rhai a gafodd eu holi o’r farn y dylid cynnig gwasanaeth Cymraeg i siaradwyr Cymraeg fel mater o hawl.

Hwn yw adroddiad ymholiad statudol cyntaf y Comisiynydd o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac yn ôl Swyddfa’r Comisiynydd, “dyma gyswllt cyntaf tua 90% o bobol â’r gwasanaeth iechyd”.

‘Brawychus’

“Rwyf wedi fy mrawychu o glywed rhai profiadau dirdynnol siaradwyr Cymraeg ac aelodau o’u teuluoedd o fethu a chael gwasanaeth iechyd addas i’w hanghenion,” meddai Meri Huws wrth gyflwyno’r adroddiad.

“Rwy’n gobeithio bod yr adroddiad hwn yn ddechrau’r diwedd i brofiadau o’r fath.

“Ar y llaw arall, mynegwyd diddordeb a brwdfrydedd i drafod y pwnc, ac roedd llawer yn barod i adnabod y rhwystrau a’r problemau ond hefyd, yn bwysicach, yn barod i drafod y ffordd ymlaen er mwyn gwella ansawdd gofal sylfaenol i gleifion yng Nghymru.

“Mae’r adroddiad yn tanlinellu pa mor greiddiol i ansawdd gofal yw darpariaeth Gymraeg neu ddwyieithog i les cleifion Cymraeg eu hiaith.”

Canfyddiadau

Mae adroddiad y Comisiynydd yn cynnwys 33 o argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Dyma brif ganfyddiadau’r Ymholiad:

  • Saesneg yw prif iaith gwasanaethau gofal sylfaenol i fwyafrif siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Ar gyfartaledd, 28% o gyswllt sy’n digwydd yn Gymraeg.
  • Mae gwahaniaeth sylweddol yn ôl daearyddiaeth gyda 55% yn ardal Betsi Cadwaladr yn cael profiad Cymraeg gyda nyrs practis er enghraifft ac yn gostwng i 6% yn ardal byrddau iechyd y de a’r canolbarth.
  • Rydych fwyaf tebygol o gael gwasanaeth Cymraeg gan nyrs practis mewn meddygfa ac yn lleiaf tebygol o dderbyn yr un gan wasanaethau tu allan i oriau, deintyddion ac optegwyr.
  • Mae 90% o’r rhai a holwyd o’r farn y dylai fod yn fater o hawl i siaradwyr Cymraeg fynegi’u hunain yn Gymraeg ble bynnag y maen nhw yng Nghymru.
  • Mae 82% o’r rhai a holwyd o’r farn y dylid cynnig gwasanaeth Cymraeg i siaradwyr Cymraeg fel mater o hawl.