Mae’r enwau ar fin cael eu dewis i weld pwy fydd yn wynebu pwy yng ngrwpiau’r ddwy gwpan rygbi Ewropeaidd newydd eleni.

Ar ôl misoedd o drafodaethau, fe gyhoeddwyd nôl ym mis Ebrill y bydd dwy gystadleuaeth newydd yn cymryd lle’r Cwpanau Heineken ac Amlin o fis Medi 2014 ymlaen.

Bydd ugain tîm – gan gynnwys y Gweilch a’r Scarlets o Gymru – yn cymryd rhan yn y prif dwrnament Ewropeaidd newydd, Cwpan y Pencampwyr, fydd yn dechrau ym mis Medi.

Yn ogystal â hynny, fe fydd enwau’r Gleision a’r Dreigiau yn yr het ar gyfer yr ugain fydd yn y Cwpan Sialens Ewropeaidd newydd.

Mae grwpiau’r Cwpan Sialens yn cael eu dewis am 12.00yp heddiw, gyda’r Cwpan Pencampwyr yn dilyn am 12.30yp, ac fe fyddwn ni’n dod a’r canlyniadau’n fyw i chi yma.

Cwpan Sialens Rygbi Ewrop

Grŵp 1: Y Gleision, Gwyddelod Llundain, Grenoble, FIRA 1

Grŵp 2: Caerwysg, Bayonne, Connacht, La Rochelle

Grŵp 3: Stade Francais, Y Dreigiau, Newcastle, FIRA 2

Grŵp 4: Caeredin, Bordeaux-Begles, Cymry Llundain, Lyon

Grŵp 5: Caerloyw, Brive, Zebre, Oyonnax

Felly gwrthwynebwyr heriol yng ngrwpiau’r Gleision a’r Dreigiau wrth iddyn nhw ddechrau paratoi ar gyfer rygbi Ewropeaidd y tymor nesaf. Egwyl fach nawr cyn i’r enwau gael eu dewis ar gyfer Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Cwpan Pencampwyr Rygbi Ewrop

Grŵp 1: Saracens, Munster, Clermont, Sale

Grŵp 2: Leinster, Castres, Harlequins, Wasps Llundain

Grŵp 3: Toulon, Caerlŷr, Ulster, Scarlets

Grŵp 4: Glasgow, Montpellier, Caerfaddon, Toulouse

Grŵp 5: Northampton, Racing Metro, Y Gweilch, Treviso

A dyna ni, yr holl grwpiau wedi’u dewis! Y Scarlets yn edrych fel petai nhw wedi cael grŵp anodd iawn, ac fe fydd gan y Gweilch her yn eu hwynebu hefyd. Scott Quinnell oedd un o’r rhai fu’n dewis yr enwau – dyw e ddim yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Gymru meddai ef!