Llwyddodd Daniel Ricciardo i gipio’r fuddugoliaeth yn Grand Prix Canada ar y lap olaf ar ôl pasio arweinydd y bencampwriaeth, Nico Rosberg.

Doedd hi ddim yn benwythnos da i Mercedes am unwaith, wrth i Rosberg a Lewis Hamilton gael trafferthion pŵer â’u ceir, a Hamilton yn gorfod gorffen ei ras yn gynnar.

Ond roedd hi’n ganlyniad parchus i Sebastian Vettel wrth iddo orffen yn drydydd ym Montreal.

Newey’n aros

Dechreuodd y penwythnos gyda chyhoeddiadau mawr ynglŷn â’r timau ar gyfer 2015, gyda’r newyddion bod Gene Haas wedi penderfynu gohirio mynediad ei dîm  nes 2016.

Y newyddion arall yw, er gwaethaf cynnig mawr gan Ferrari, bod Adrian Newey wedi arwyddo cytundeb newydd gyda Red Bull.

Ond tra bod hyn yn swnio fel newyddion da i griw Milton Keynes, mi fydd y cytundeb newydd yn rhoi mwy o ryddid i Newey ddilyn diddordebau eraill o fewn y cwmni (efallai yn dylunio cwch America’s Cup).

Felly mae’n debyg, fisoedd yn unig ar ôl colli Ross Brawn o Mercedes, y bydd dewin technegol y genhedlaeth yn gadael y gamp flwyddyn nesaf.

Rhagbrawf

Yn ôl i Ganada, a gydag eiliadau o Q1 yn weddill fe darodd Marcus Ericsson y rhwystrau gan ddod a’r fflag goch allan. Dechreuodd yn 21ain, un safle o flaen Esteban Gutierrez, oedd wedi gorfod methu’r sesiwn allan gan fod ei gar wedi cael gormod o ddifrod yn dilyn damwain yn y sesiwn ymarfer.

Mae’r ddau yn ymddangos fel petai nhw’n gyfeillion unwaith yn rhagor, ac fe rannodd Nico Rosberg a Lewis Hamilton y rhes flaen eto, gyda Sebastian Vettel yn gwneud yn dda i ddechrau yn drydydd.

Roedd y ddau Williams, Valeri Bottas a Felipe Massa, yn gwahanu Vettel a’i gyd-yrrwr Daniel Ricciardo.

Y Ras

Bu bron i Hamilton fynd ar y blaen wrth y tro cyntaf, ond wrth geisio’n rhy galed cafodd ei basio gan Vettel.

Roedd hi bron fel pe bai Marussia yn talu am eu penwythnos gorau erioed ym Monaco, wrth i Max Chilton daro mewn i’w gyd-yrrwr Jules Bianchi, i ddod a ras y ddau i ben o fewn ychydig gorneli.

Daeth hyn a’r car diogelwch allan am beth amser. Ar drac mor galed ar danwydd, gall y seibiant cynnar yma fod yn help mawr i nifer o dimau.

Dywedodd llawer fod lwc ar ochr Rosberg ym Monaco gyda’i ‘ddamwain’ rhagbrawf, ac mae’n debyg bod y lwc wedi cario drosodd yma i’r Circuit Gilles Villeneuve, wrth iddo ddod yn agos dros ben i daro’r wal ar ôl clipio cerb drwy’r chicane.

Yna, gan gefnogi honiadau fod y stiwardiaid ar ei ochr o, ar lap 25 fe fethodd Rosberg ei bwynt brecio ar gyfer y chicane olaf, gyda Hamilton llai nag eiliad y tu ôl iddo.

Gan fod yna darmac yno, roedd Rosberg yn gallu ailymuno â’r trac yn ddi-stŵr. Ond nid yn unig wnaeth o hyn, fe ailymunodd heb arafu, gan olygu fod ei gamgymeriad o wedi rhoi mantais iddo dros Hamilton.

Mi fuaswn i’n dadlau fod y rheol sydd yn dweud mai dim ond os yw gyrrwr yn goddiweddyd drwy adael y trac y dylai gael ei gosbi yn annheg. Llwyddodd Rosberg hyd yn oed i osod amser lap cyflymaf y ras ar y pwynt hwnnw drwy ei ‘dwyll’!

Problem pŵer

Fel yr oedden ni i gyd yn disgwyl ein bod yn mynd i weld ras agos rhwng y Mercedes, y ddau ymhell o flaen bawb arall, fe ddigwyddodd rywbeth od iawn.

Adroddodd y ddau, ar yr un pryd, eu bod yn cael problem pŵer. Roedd MGU-K y ddau gar wedi torri! Yn fuan iawn roeddynt yn lapio dwy eiliad yn arafach na’r gweddill, rywbeth nad ydym wedi clywed am y Saethau Arian ers amser maith!

Wrth i’r ddau Mercedes bitio gyda’u problemau, fe gipiodd Massa y blaen.

Mae’r MGU-K yn cynorthwyo gydag arafu’r car fel arfer, ac felly mae disgiau breciau eleni’n lawer llai. Ar drac brecio mor galed â hwn, roedd y broblem yn dangos ar gar Hamilton.

Aeth y Prydeiniwr oddi ar y trac wrth yr hair-pin, cyn copïo Rosberg wrth dorri’r gornel olaf. Ymhen dwy lap, roedd o allan ar ôl i’w freciau fethu.

Roedd hi rŵan i fyny i Rosberg geisio cyrraedd diwedd y ras heb ormod o ddifrod, ond yn fuan iawn roedd pedwar car yn agos iawn y tu ôl iddo.

Cyffro’r diwedd

Yng nghefn y pac yma gyda lap i fynd fe darodd Perez a Massa. Wrth i’r ddau fynd yn ddi-reolaeth tua’r wal, lwcus iawn oedd Vettel wrth i un fynd i’r chwith ohono a’r llall i’r dde.

Cafodd Massa wrthdrawiad o 27G, a lwcus iawn oedd hi fod y ddau heb anafu. Perez sydd wedi cael y bai, a chosb pum safle ar grid y ras nesaf, er gwaethaf protestiadau ef a’i dîm.

Nid dyna oedd yr unig gyffro ar y diwedd wrth i Ricciardo lwyddo i gipio’r fuddugoliaeth o grafangau Rosberg gyda lap i fynd!

Mae’n debyg y bydd pawb ar y podiwm yn fodlon. Bydd gwên Ricciardo yn fwy llydan nac erioed gyda’i fuddugoliaeth gyntaf a Red Bull yn hapus i gael Vettel yn drydydd ar un o’u traciau gwanaf.

Mae’n wyrthiol (neu’n dangos gwir fantais Mercedes) bod Rosberg wedi cadw’r ail safle er ei fod wedi colli 160bhp(!!) oherwydd ei broblem. Gan fanteisio ar y ddamwain fawr a drwy basio Hulkenberg ac Alonso, fe orffennodd Jenson Button yn bedwerydd.

Ers dechrau’r tymor, mae cymariaethau wedi bod rhwng  2014 a 1988 (lle enillodd McLaren 15 o’r 16 ras). Yng Nghanada, roedd cymariaethau’r gyrwyr yn glir gyda Rosberg (fel Prost) yn gyrru’n glyfar, a Hamilton efallai fel Senna’n gwthio ychydig yn rhy galed.

Gyda Rosberg 22 pwynt ar y blaen rŵan, gall arddull y gyrwyr am weddill y tymor fod y dyngedfennol.