Pablo Hernandez
Mae ymosodwr Abertawe Pablo Hernandez wedi dweud bod Sbaen yn un o’r ffefrynnau i godi Cwpan y Byd ym Mrasil.

Does yna’r un chwaraewr o Abertawe yng ngharfan Sbaen, ond mae Hernandez yn darogan y byddan nhw’n anodd i’w curo.

Sbaen yw deiliaid Cwpan y Byd yn dilyn eu llwyddiant bedair blynedd yn ôl yn Ne Affrica, ac maen nhw wedi cipio tlws Pencampwriaeth Ewrop ddwywaith yn olynol.

Dywedodd ar wefan Abertawe: “Mae’n anodd iawn ennill dwy Bencampwriaeth Ewrop a Chwpan y Byd o’r bron ac os yw Sbaen yn llwyddo i wneud hynny, fe fyddai’n gamp aruthrol.

‘Ffefrynnau’

“Yn fy marn i, Sbaen yw’r ffefrynnau gan mai dim ond dau neu dri o chwaraewyr sydd wedi newid yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf.

“Mae ganddyn nhw gysondeb wrth ddewis y chwaraewyr ac mae pob chwaraewr yn gwybod yn union beth yw ei rôl.

“Rwy’n credu bod Sbaen yn dîm anodd i chwarae yn ei erbyn, nid yn unig oherwydd y ffordd maen nhw’n cadw’r bêl ond hefyd oherwydd y systemau maen nhw’n gallu eu defnyddio hefyd.

“Pan mai chi yw’r gwrthwynebwyr yn cwrso’r bêl, mae’n rhaid ei bod yn anodd iawn yn erbyn chwaraewyr o safon Sbaen.”

Mae ymgyrch Sbaen yn dechrau yn erbyn yr Iseldiroedd ddydd Gwener gyda’r ddau dîm gyrhaeddodd y ffeinal yn 2010 yn herio’i gilydd unwaith eto.

Dywedodd Pablo Hernandez mai Andrés Iniesta, Cesc Fabregas, Xavi a Xabi Alonso yw’r chwaraewyr i gadw llygad arnyn nhw yn ystod y gystadleuaeth.

Ychwanegodd fod Brasil, Yr Ariannin, Yr Almaen a’r Iseldiroedd hefyd ymhlith y ffefrynnau.

Ymhlith yr Elyrch fydd yn cystadlu yng Nghwpan y Byd mae Wilfried Bony (Côte d’Ivoire), Michel Vorm a Jonathan de Guzman (Yr Iseldiroedd) a Ki Sung-Yueng (De Corea).

Yn y cyfamser, mae rheolwr Abertawe, Garry Monk wedi dweud bod lle yn ei garfan i Ki pe bai’n penderfynu dychwelyd i’r clwb y tymor nesaf.

Treuliodd y tymor diwethaf ar fenthyg yn Sunderland.