Y protestwyr yn dathlu (Llun yr ymgyrch)
Mae ymgyrchwyr yn erbyn cau llyfrgell mewn ardal ddi-fraint yn hawlio buddugoliaeth fawr ar ôl cael l yr hawl i gael adolygiad barnwrol.

Fe aeth ymgyrchwyr o ardal Rhydyfelin, Pontypridd, i’r llys yng Nghasnewydd i herio penderfyniad barnwr i wrthod yr hawl iddyn nhw – ac ennill.

Roedd yna ddathlu ar risiau’r llys wedyn ac mae’r gwaith wedi dechrau ar gyfer y gwrandawiad nesa’ yng Nghaerdydd 18 Mehefin.

Protestio

Mae’r bobol leol wedi bod yn protestio ers i Gyngor Rhondda Cynon Taf benderfynu y bydd y llyfrgell leol yn cau, er ei bod yn un o ardaloedd tlota’ a mwya’ anghenus gwaelod y sir.

Maen nhw’n cyhuddo’r Cyngor o fethu ag ymgynghori gyda’r bobol ac o wneud penderfyniad a oedd yn afresymol o ystyried y dystiolaeth oedd ganddyn nhw.

Ar ôl colli tros eu cais cynta’ ar bapur am adolygiad barnwrol, fe gawson nhw wrandawiad gyda thystiolaeth lafar ddoe a gwyrdroi’r penderfyniad.

Angen

“Mae angen y llyfrgell yn Rhydyfelin,” meddai un o arweinwyr yr ymgyrch, Meurig Parry. “Ychydig o bobol yr ardal sydd â chyfrifiaduron, does dim ceir gan lawer o bobol ac mae’n costio £4 i fynd ar y bws i’r llyfrgell agosa’ ym Mhontypridd.”

Yn ôl yr ymgyrchwyr roedd y Cyngor wedi cynnal arolwg ac wedi ymgynghori ar fwriad i gau 14 llyfrgell, ond nid llyfrgell Rhydyfelin.

Wedyn, medden nhw, mewn cyfarfod cabinet, heb dystiolaleth newydd, fe benderfynon nhw gau Rhydyfelin a chadw Llyfrgell Pontyclun mewn ardal fwy llewyrchus.

Mae’r ymgyrchwyr yn mynnu na fu dim ymgynghori pellach ar y newid meddwl ac maen nhw wedi cynnal nifer o gyfarfodydd cyhoeddus a phrotest uniongyrchol ddydd Sadwrn pan oedd y llyfrgell yn cau.

‘Rhesymau gwleidyddol’

“Rydyn ni’n credu mai rhesymau gwleidyddol sydd am hyn,” meddai Meurig Parry, gan gyhuddo’r Blaid Lafur sy’n rheoli’r Cyngor. “Mae Rhydyfelin yn ardal ddiogel i’r Blaid Lafur ond mae Pontyclun yn sedd ymylol.”

Maen nhw wedi cael cymorth cyfreithiol er mwyn cynnal yr achos a llogi cyfreithwyr a bargyfreithiwr.