Mae archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal yn dilyn marwolaeth dynes oedrannus mewn ysbyty ym Merthyr Tudful.

Bu farw Tegwen Roderick, 88, yn Ysbyty Tywysog Charles ddoe ar ôl cael ei symud o Ysbyty Cwm Cynon yn dioddef o anafiadau difrifol “anesboniadwy”.

Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad i’w marwolaeth ac roedd 10 aelod o staff yr ysbyty wedi cael eu gwahardd o’u gwaith.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi codi gwaharddiad chwech o’r 10 erbyn hyn.

Ar hyn o bryd, does dim cyswllt wedi’i ddarganfod rhwng ei hanafiadau a’i marwolaeth, ac mae pedwar o bobol yn helpu’r heddlu gyda’u hymholiadau.

Mewn datganiad y prynhawn yma, dywedodd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Allison Williams: “Gyda thristwch mawr rwy’n deall y bydd pryderon, yn naturiol, gan gleifion, perthnasau a phobl leol am yr ymchwiliad cyfredol a’r sylw a roddir yn y cyfryngau i Ysbyty Cwm Cynon.

‘Pryderon’

“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn cymryd gofal a diogelwch ei gleifion yn ddifrifol iawn.

“Cyn gynted ag y nododd y staff fod problem â’r claf mewn cwestiwn, roeddynt wedi gweithredu’n gyflym ac yn briodol.

“Rydym yn parhau i weithio â’r heddlu er mwyn i ni allu gwneud popeth y gallem i fynd i wraidd yr hyn a ddigwyddodd.

“Hoffem bwysleisio nad oes unrhyw awgrym bod cleifion eraill wedi cael eu heffeithio.

“Fodd bynnag, os bydd unrhyw bryderon gan berthnasau am ofal eu hanwyliaid fe’u hanogir i siarad â staff y ward sy’n gallu trefnu iddynt siarad ag uwch aelod o dîm y Bwrdd Iechyd pe byddai hynny o gymorth.

“Ar ran yr holl Fwrdd, rwy’n estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i’r teulu ar yr adeg anodd hwn.”