Mae Heddlu’r De wedi arestio dynes 21 oed ar amheuaeth o gyflenwi’r cyffur mephedrone – neu ‘meow meow’ – wedi i dri o bobol dderbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl cymryd y cyffur.

Cafodd y ddynes ei harestio yn Nhreforys brynhawn Mercher, ac mae hi wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.

Ddydd Mawrth, rhybuddiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai pobol fod yn ofalus wrth gymryd mephedrone gan fod posibilrwydd fod cyffuriau, oedd wedi’u gwenwyno neu wedi eu torri gan ddefnyddio cemegau, wedi cael ei ddarganfod.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n parhau i chwilio am unrhyw un sydd wedi bod yn cyflenwi’r cyffur, ac y dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw.

Ychwanegon nhw y dylai unrhyw un sy’n cymryd mephedrone ac sy’n teimlo unrhyw sgil effeithiau corfforol neu feddyliol roi’r gorau i’w cymryd nhw a cheisio cyngor meddygol.