Fe fydd y gynhadledd gyntaf yng Nghymru ar e-sigaréts yn cael ei chynnal yn Abertawe heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i wahardd e-sigarets mewn mannau cyhoeddus dan do, oherwydd pryderon y gallai danseilio’r gwaharddiad presennol ar ysmygu yn y llefydd hynny.

Ond mae ymchwil newydd ar e-sigarets wedi awgrymu eu bod yn gallu bod yn fwy effeithiol na dulliau eraill o annog pobol i roi’r gorau i ysmygu.

Yn y gynhadledd, bydd un o arbenigwyr e-sigaréts mwyaf blaenllaw’r byd yn herio’r pryder bod e-sigaréts yn arwain pobol ifanc at ysmygu sigaréts tybaco cyffredin.

Tystiolaeth

Mae Action on Smoking and Health (ASH) Cymru wedi cynnal yr arolwg cyntaf erioed gyda phobol rhwng 13 a 18 oed yng Nghymru am eu defnydd o e-sigaréts. Mae’r arolwg yn awgrymu mai prin iawn yw’r rhai sydd erioed wedi smygu sydd wedi trio e-sigaréts.

Dywedodd yr Athro Peter Hajek, Cyfarwyddwr Uned Ymchwil Dibyniaeth Tybaco Prifysgol Queen Mary yn Llundain, sydd am fod yn siarad yn y gynhadledd: “Does dim tystiolaeth i gefnogi’r pryder y byddai e-sigaréts yn denu pobol ifanc i smygu.”

“Mae tua hanner y rhai sydd ddim yn smygu ac yn arbrofi gyda sigaréts yn dechrau ysmygu bob dydd. Mewn gwrthgyferbyniad clir i’r effaith brawychus hwn, pan fo rhai sydd ddim yn smygu yn arbrofi gyda e-sigaréts does braidd neb yn symud mlaen i smygu bob dydd.”

Angen mwy o ymchwil

Mae ASH Cymru yn ategu barn yr Athro Peter Hajek ac yn galw am fwy o ymchwil ar e-sigarets cyn i’r Llywodraeth gyhoeddi newidiadau cadarn.

“Dylem ochel rhag gwneud unrhyw beth allai danseilio’r rhai sy’n defnyddio e-sigaréts i’w helpu i roi’r gorau neu leihau smygu,” meddai Prif Weithredwr ASH Cymru, Elen de Lacy.

“Rhaid i ni wneud y gorau o bob cyfle i bobol roi’r gorau i smygu neu leihau nifer y sigaréts maen nhw’n eu smygu, ac ar yr un pryd lleihau’r bygythiad i iechyd cyhoeddus oddi wrth y diwydiant tybaco.”

Fe fydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi Papur Gwyn yn ddiweddarach eleni, sy’n “cydnabod y gall e-sigarets, ynghyd â’r dulliau eraill sy’n annog ysmygwyr i roi’r gorau i’r arfer, fod yn ddefnyddiol”.