Fe fydd y ffilmio ar gyfer trydedd cyfres o’r sioe deledu fyd-enwog Da Vinci’s Demons yn dechrau yn Abertawe ar ddiwedd y mis.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan Weinidog yr Economi, Edwina Hart, yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd neithiwr a ddywedodd ei fod yn hwb mawr i ddiwydiant creadigol y wlad.

Fe ddywedodd y byddai’n arwain at ragor o fuddsoddi a swyddi yn y maes.

Set anferth yn Abertawe

Mae’r gyfres Americanaidd, sy’n adrodd hanes dychmygol am fywyd cynnar Leonardo da Vinci, wedi cael ei darlledu mewn mwy na 120 o wledydd mewn 45 iaith ar draws y byd.

Roedd y ddwy gyfres gynta’ wedi eu ffilmio’n benna’ yn ardal Abertawe, Castell Nedd a Chastell Margam gyda set 265,000 troedfedd sgwâr wedi ei chreu ym Mharc Diwydiannol Porth Abertawe.

Yn ogystal â chreu swyddi a gwario’n lleol, roedd Edwina Hart yn mynnu bod y cynhyrchiad hefyd yn datblygu’r genhedlaeth nesa’ o weithwyr.

“Mae’n cynnwys Rhaglen Addysg Adjacent sydd wedi rhoi cyfleoedd gwaith  i 100 o bobol ifanc,” meddai. “Mae dau ohonyn nhw’n mynd ymlaen i gael swyddi yn y diwydiant.”

‘Talent o Gymru’

Ychwanegodd Jane Tranter, Pennaeth Cynyrchiadau Adjacent: “Mae llwyddiant  rhyngwladol Da Vinci’s Demons yn ddyledus i’r dalent gynhyrchu o Gymru ac wedi ein helpu i greu drama o’r safon uchaf.

Bydd ffilmio yn dechrau ar 23 Mehefin a bydd y drydedd gyfres yn cael ei darlledu’r flwyddyn nesa’. Mae’n achos o gydweithio rhwng cwmni Starz o’r Unol Daleithiau a BBC Worldwide.