Sied Dylan Thomas
Mae copi o sied Dylan Thomas sydd ar daith o amgylch y DU yn rhan o gystadleuaeth sied y flwyddyn eleni.

Mae cystadleuaeth #shedoftheyear yn cael ei redeg gan wefan Readersheds.co.uk.

Mae’r atgynhyrchiad  o’r sied wedi cael ei wneud yn arbennig fel rhan o ddathliadau i gofnodi 100 mlynedd ers geni’r bardd, Dylan Thomas.

Mae wedi cael ei greu gan adran gelf a diwylliant Cyngor Sir Gaerfyrddin ac maen nhw wedi ceisio ail greu’r sied mor agos i’r gwreiddiol ag sy’n bosibl.

Dywedodd Eleri Retallick o Gyngor Sir Caerfyrddin bod y sied yn galluogi pobl i brofi’r amgylchedd oedd Dylan Thomas yn dianc iddo i sgwennu.

Meddai:  “Mae wedi dod yn arf addysgol ac wedi cael ei groesawu gan 31 o ysgolion ledled y wlad.

“Mae wedi dod yn atyniad i ymwelwyr hefyd ac mae’r galw am y sied wedi bod yn rhyfeddol. Mae’r sied wedi bod ac yn mynd i Ŵyl y Gelli, Gŵyl Pensaernïaeth Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Gŵyl Jazz Aberhonddu a Gŵyl Dylan Thomas yn Fitzrovia, Llundain.”

Bydd y sied nawr yn mynd benben a nifer o siediau eraill yn  y gystadleuaeth.