Llai o bwysau ar ysbytai yw'r nod
Mae’r Gweinidog Iechyd wedi addo y bydd nifer o fesurau’n cael eu cyhoedid yn ystod yr wythnosau nesa’ i roi mwy o bwyslais ar ofal iechyd gan feddygon teulu a gweithwyr iechyd lleol.

Ac, yn ôl Mark Drakeford, mae angen llawer mwy o bwyslais ar ofal lleol ac yn y gymuned, ar atal afiechydon yn fwy na’u gwella wedyn ac ar roi llai o bwysau ar wasanaethau ysbyty.

Fe fyddai hynny ochr yn ochr â mwy o gydweithio gyda’r gwasanaethau gofal, meddai mewn dadl yn y Cynulliad.

Pwysau gwleidyddol

Mae Llywodraeth Cymru wedi dod dan bwysau gwleidyddol oherwydd diffygion y gwasanaethau iechyd, yn enwedig yn rhai o ysbytai Cymru.

Mae’r Llywodraeth yn San Steffan a Phrif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi bod yn tynnu sylw cyhoeddus at y problemau yng Nghymru.

Ac fe gafodd Llywodraeth Cymru ei beirniadu’n hallt gan yr Aelod Seneddol Llafur, Ann Clwyd, tros gwynion am driniaeth ysbyty.

Gwaith ar droed

Ond, yn ôl Mark Drakeford, mae gwaith ar droed eisoes i gynyddu’r pwyslais ar y gwasanaethau sylfaenol yn y gymuned.

Roedd yn honni bod nifer y meddygol teulu yng Nghymru wedi codi 30 rhwng 2012 a 2013 a bod tri chwarter y meddygfeydd yn cadw at oriau sylfaenol neu’n agos at y rheiny.

Mae 90% o ganolfannau meddygon teulu hefyd yn cynnig cyfle i weld meddygon yn gynnar fin nos ddwy noson yr wythnos, meddai.