Gareth Williams (Llun: Heddlu De Cymru)
Fe ddaeth cadarnhad gan Gyngor Caerdydd fod y dirpwy brifathro a gafodd ei garcharu yr wythnos hon am ffilmio plant yn gudd, wedi ei ddiswyddo.

Roedd Gareth Williams, 47 oed, yn ddirprwy brifathro Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd.

Fe gafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar, wedi iddo bledio’n euog i 31 cyhuddiad. Roedd y rheiny’n cynnwys cyhuddiadau o greu delweddau anweddus, ac o sbecian.

Meddai datganiad Cyngor Caerdydd: “Mae’r broses o ddelio â Mr Williams wedi dod i ben bellach, a dyw e bellach ddim yn gyflogedig gan Ysgol Gyfun Glantaf.

“Fe ddaeth ei gytundeb i ben y diwrnod y cafodd ei ddedfrydu.”